P-04-384 Linc i’r M48 o B4245 Cadico/Rogiet
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r ddeiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu’r penderfyniad diweddaraf i eithrio ffordd gyswllt M48/B4245 o Raglen Mesurau Gwella Coridor yr M4. Byddai ffordd gyswllt yr M48/B4245 i’r dwyrain o Wndy a Magwyr yn lleihau’r tagfeydd ym mhentrefi Rogiet, Gwndy a Magwyr. Byddai’r ffordd gyswllt yn gwella’r system drafnidiaeth integredig ac yn cyfrannu at les cymdeithasol y trigolion a’r economi leol.
Bydd methu â darparu seilwaith allweddol yn gwrthdaro â’r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Cynllun Gofodol Cymru Sir Fynwy.
Cyflwynwyd y ddeiseb gan: Cllr James Harris
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 1 Mai 2012
Nifer y llofnodion: 275